Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Chwefror 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(5 munud)
(60 munud)
NDM8488 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef “Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE”, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2024.
Dogfennau ategol
Ymateb Comisiwn y Senedd i’r adroddiad
(60 munud)
NDM8489 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2. Yn nodi:
a) bod 27 Chwefror 2024 yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig;
b) bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn flaenorol rhwng 8 Mehefin 2015 a 24 Tachwedd 2020, lai na 6 mis cyn etholiadau'r Senedd yn 2021; ac
c) bod y bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
3. Yn gresynu nad yw cleifion a staff wedi gweld y gwelliannau gofynnol eto ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan godir pryderon am ansawdd gwasanaethau; a
b) sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le:
bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol;
Yn nodi ymhellach:
a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a
b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021.
Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a
b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad;
Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol.
(60 munud)
NDM8483 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bydd Modiwl 2B o Ymchwiliad Covid y DU yn clywed tystiolaeth yng Nghymru rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024.
2. Yn credu:
a) bod Modiwl 2B o ymchwiliad Covid y DU: ‘Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru’ yn annigonol i alluogi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru;
b) nad yw'r rhestr cyfranogwyr craidd ar gyfer gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yn cynnwys yr ystod lawn o sefydliadau perthnasol Cymreig;
c) ni all Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru asesu'r ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig;
d) bod methiant i sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli;
e) bod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn hawl sylfaenol i bawb a gollodd anwyliaid oherwydd Covid.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd Ymchwiliad Covid y DU wrth nodi sut y dylanwadodd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU ar ymateb Covid yng Nghymru.
4. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, wedi sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru i archwilio’n llawn weithredoedd a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid Cymru dan arweiniad barnwr.
Cefnogwyr
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod y Senedd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad Covid yng Nghymru, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig.
(30 munud)
NDM8484 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch - dathlu canmlwyddiant cyflwyno deiseb heddwch menywod Cymru i'r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024